Neidio i'r prif gynnwys

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Enwi

Great British Energy - Nuclear

Telerau ac Amodau'r Cynllun Enwi

1. Pwrpas

Mae Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yn gwahodd aelodau o'r gymuned leol i rannu cynigion ar gyfer enw'r orsaf bŵer niwclear newydd ar safle Wylfa. Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth enwi hon yn gwbl wirfoddol ac mae'n rhan o weithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd GBE-N.

2. Pwy sy'n gymwys

Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i unigolion y mae eu prif gyfeiriad preswyl ar Ynys Môn.

Mae croeso i blant a phobl ifanc gymryd rhan, gan gynnwys drwy ysgolion. Pan fydd cyfranogwyr o dan 18 oed, mae mesurau diogelu ychwanegol yn berthnasol fel y nodir yn y Telerau ac Amodau hyn ac yn Hysbysiad Preifatrwydd y gystadleuaeth.

I gymryd rhan, rhaid i ymgeiswyr roi cod post Ynys Môn dilys wrth gyflwyno'r ffurflen. Drwy gyflwyno cynnig, mae ymgeiswyr yn cadarnhau mai'r cod post a ddarparwyd ganddynt yw cod post eu prif gyfeiriad preswyl adeg cyflwyno.

Mae Great British Energy - Nuclear yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gynnig nad yw'n bodloni'r gofyniad cymhwysedd hwn.

3. Perchenogaeth ar Gynigion

Drwy gyflwyno cynnig, mae ymgeiswyr yn neilltuo pob hawl, gan gynnwys unrhyw hawliau eiddo deallusol, i Great British Energy – Nuclear. Mae hyn yn caniatáu i GBE-N ddefnyddio, addasu, cyhoeddi neu ddefnyddio eich cynnig mewn unrhyw ffordd sy'n briodol yn ei farn ef, heb rwymedigaeth i ddarparu taliad na roi cydnabyddiaeth i chi.

4. Cyhoeddusrwydd a Chaniatâd

Nid oes angen cytuno i fod yn rhan o gynnwys cyhoeddi er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Os bydd cynnig yn cael ei roi ar y rhestr fer neu'n cael ei ddewis, efallai y bydd GBE-N yn gwahodd y cyfranogwr i gymryd rhan mewn cynnwys cyhoeddi yn gysylltiedig â'r gystadleuaeth. Dim ond gyda chaniatâd penodol y bydd unrhyw weithgarwch cyhoeddusrwydd yn digwydd.

Os yw'r cyfranogwr o dan 18 oed, dim ond os oes caniatâd penodol wedi'i roi gan riant neu warcheidwad cyfreithiol y rhoddir cyhoeddusrwydd iddo.

Gellir tynnu caniatâd yn ôl ar gyfer cynnwys cyhoeddi ar unrhyw adeg. Ni fydd tynnu caniatâd yn ôl yn effeithio ar gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ond mae'n bosibl na fydd yn effeithio ar ddeunyddiau sydd wedi cael eu cyhoeddi'n barod.

5. Dim Cyfrinachedd

Nid yw cynigion a gyflwynir fel rhan o'r gystadleuaeth yn gyfrinachol. Ni ddylai'r rhai sy'n cymryd rhan gynnwys unrhyw wybodaeth sy'n eiddo i rywun arall nac sy'n destun cytundebau cyfrinachedd.

6. Sut mae Cynigion yn cael eu Trin

Bydd yr holl gynigion yn cael eu hadolygu gan ddefnyddio'r meini prawf a gyhoeddwyd. Gall GBE-N dderbyn, gwrthod, llunio rhestr fer, neu ddefnyddio rhan o gynnig yn ôl ei ddisgresiwn.

Nid yw'n ofynnol i GBE-N roi adborth ar ei benderfyniadau na'u hegluro. Mae'n bosibl y bydd cynigion nad ydynt yn bodloni'r gofynion cymhwysedd yn cael eu gwrthod heb ystyriaeth.

7. Gwobrau

Ni fydd gwobrau na gwobrau ariannol yn cael eu cynnig fel rhan o'r gystadleuaeth hon. Mae unrhyw gydnabyddiaeth yn llwyr yn ôl disgresiwn Great British Energy - Nuclear.

8. Cyfrifoldeb y Rhai sy'n Cymryd Rhan

Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cadarnhau:

  • Nad yw eu cynnig yn tresmasu ar hawliau unrhyw drydydd parti
  • Nad yw eu cynnig yn anghyfreithlon, yn dramgwyddus nac yn amhriodol

Nid yw Great British Energy – Nuclear yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o gyflwyno neu ddefnyddio cynnig.

9. Diogelu Data

Great British Energy – Nuclear yw'r rheolydd data ar gyfer data personol sy'n cael ei gasglu fel rhan o'r gystadleuaeth hon.

Dim ond at y dibenion canlynol y defnyddir data personol:

  • Er mwyn gwirio cymhwysedd
  • Er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth
  • Er mwyn cysylltu â'r rhai sydd ar y rhestr fer neu sydd wedi cael eu dewis
  • Er mwyn cefnogi gweithgarwch cyhoeddi y cytunwyd arno, lle mae caniatâd penodol wedi'i roi

Bydd data personol yn cael ei brosesu yn unol â'r gyfraith diogelu data berthnasol a Hysbysiad Preifatrwydd y gystadleuaeth, sy'n egluro sut mae data'n cael ei ddefnyddio a'i gadw a sut gall unigolion arfer eu hawliau.

Pan fydd plant yn cymryd rhan, cymerir gofal ychwanegol i ddiogelu eu data personol, ac ni fydd unrhyw blentyn yn cael ei enwi'n gyhoeddus heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad.

Ni fydd data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata ac ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd partïon, ac eithrio pan fo angen gwneud hynny ar gyfer cynnwys cyhoeddi y cytunwyd arno a dim ond gyda chaniatâd a chymeradwyaeth briodol.

10. Dyddiad cau

Rhaid cyflwyno pob cynnig erbyn 17:00, dydd Llun 8 Mehefin 2026. Ni fydd cynigion sy'n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

11. Newidiadau i'r Cynllun

Mae Great British Energy – Nuclear yn cadw'r hawl i ddiwygio, atal neu gau'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg lle bo angen. Bydd unrhyw newidiadau perthnasol yn cael eu nodi ar dudalen we'r gystadleuaeth.

12. Derbyn y Telerau

Drwy gyflwyno cynnig, mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cadarnhau eu bod:

  • Yn bodloni'r gofynion cymhwysedd
  • Wedi darllen a deall y Telerau ac Amodau hyn
  • Yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt

13. Plant a Diogelu

Mae GBE-N yn cydnabod bod angen gwarchodaeth ychwanegol ar blant mewn perthynas â'u data personol.

Anogir plant i beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol na sensitif yn eu cynigion. Ni fydd unrhyw wybodaeth o'r fath a nodir yn cael ei defnyddio, ac mae'n bosibl y bydd yn cael ei dileu.

Anogir rhieni, gwarcheidwaid ac ysgolion i ddarllen Hysbysiad Preifatrwydd y gystadleuaeth cyn cymryd rhan.


Hysbysiad Preifatrwydd

Cystadleuaeth Enwi Gorsaf Bŵer Wylfa

Pwy ydym ni?

Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yw'r rheolydd data ar gyfer data personol sy'n cael ei gasglu fel rhan o'r Gystadleuaeth Enwi Gorsaf Bŵer Wylfa.

Corff hyd braich y llywodraeth yw GBE-N sy'n gyfrifol am ymgysylltu â'r cyhoedd mewn perthynas â phrosiectau niwclear newydd.

Manylion cysylltu:
Swyddog Diogelu Data
Great British Energy – Nuclear
Renaissance House
Lakeside Drive
Warrington Centre Park
Warrington WA1 1QF
E-bost: dataprotection@greatbritishnuclear.uk

Beth mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ei gynnwys?

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol pan fyddwch yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Enwi Gorsaf Bŵer Wylfa.

Dim ond i'r gystadleuaeth hon y mae'n berthnasol. I gael gwybodaeth ynghylch sut mae GBE-N yn prosesu data personol, darllenwch hysbysiad preifatrwydd GBE-N.

Pwy all gymryd rhan?

Mae'r gystadleuaeth ar agor i drigolion Ynys Môn.

Mae croeso i blant a phobl ifanc gymryd rhan, gan gynnwys drwy ysgolion. Os yw cyfranogwr o dan 18 oed, mae mesurau diogelu ychwanegol yn berthnasol, fel yr esbonnir isod.

Pa ddata personol ydym ni'n ei gasglu?

Dim ond ychydig o ddata personol sydd ei angen arnom i gynnal y gystadleuaeth hon yn deg. Gall hyn gynnwys:

  • Enw (dewisol)
  • Cyfeiriad e-bost (dewisol oni bai eich bod ar y rhestr fer neu'n cael eich dewis)
  • Cod post (i gadarnhau preswyliaeth ar Ynys Môn)
  • Testun y cais ar gyfer y gystadleuaeth

Nid ydym yn gofyn am gyfeiriadau llawn, dyddiadau geni nac unrhyw wybodaeth bersonol sensitif.

Gofynnir i'r rhai sy'n cymryd rhan i beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol na sensitif yn nhestun y cais.

Pam rydym yn defnyddio eich data?

Rydym yn defnyddio data personol i wneud y canlynol yn unig:

  • Gwirio eich bod yn gymwys (yn preswylio ar Ynys Môn)
  • Gweinyddu'r gystadleuaeth
  • Adolygu a llunio rhestr fer o gynigion
  • Cysylltu â'r rhai sydd ar y rhestr fer neu sydd wedi cael eu dewis
  • Cefnogi gweithgarwch cyhoeddi y cytunwyd arno, dim ond lle mae caniatâd penodol wedi'i roi

Nid ydym yn defnyddio data personol at ddibenion marchnata na dibenion anghysylltiedig.

Ein sail gyfreithlon dros brosesu

Rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithlon canlynol o dan GDPR y DU:

Tasg gyhoeddus (Erthygl 6(1)(e))
Ar gyfer gweinyddu'r gystadleuaeth fel rhan o rôl ymgysylltu â'r cyhoedd GBE-N

Cydsyniad (Erthygl 6(1)(a))
Ar gyfer unrhyw weithgaredd cyhoeddusrwydd (fel enwau, dyfyniadau, lluniau neu fideo)

Os yw cyfranogwr o dan 18 oed, mae angen caniatâd penodol gan riant neu warcheidwad cyfreithiol cyn i unrhyw weithgarwch cyhoeddusrwydd ddigwydd.

Nid oes angen cytuno i fod yn rhan o gynnwys cyhoeddusrwydd er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Data plant a diogelu

Rydym yn cydnabod bod angen gwarchodaeth ychwanegol ar blant.

Anogir plant i beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol na sensitif yn eu cynigion.

Ni fydd unrhyw blentyn yn cael ei enwi'n gyhoeddus heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad.

Mae cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â phlant yn ddewisol, ac yn amodol ar ganiatâd penodol.

Darperir gwybodaeth mewn iaith glir sy'n briodol i oedran.

Wrth gynllunio a chynnal y gystadleuaeth hon, rydym wedi ystyried anghenion gwarchodaeth uwch plant a'u buddiannau gorau, yn unol â chyfraith diogelu data'r DU.

Pwy all gael mynediad at eich data?

Mae mynediad at ddata'r gystadleuaeth wedi'i gyfyngu i aelodau awdurdodedig o Dîm Cyfathrebu GBE-N sydd ei angen i weinyddu'r gystadleuaeth.

Nid yw data'n cael ei rannu â thrydydd partïon fel rheol. Dim ond gyda chaniatâd a chymeradwyaeth briodol y bydd unrhyw eithriad yn digwydd (er enghraifft gyda'r cyfryngau).

Sut ydym ni'n cadw eich data'n ddiogel?

Rydym yn defnyddio mesurau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu data personol, gan gynnwys:

  • Systemau diogel yn Microsoft 365
  • Rheoli mynediad ar sail rôl
  • Dilysu aml-ffactor
  • Logio archwilio
  • Does dim byd yn cael ei lwytho i lawr i ddyfeisiau personol
  • Rhoi canllawiau clir i staff sy'n trin data plant

Am ba hyd fyddwn ni'n cadw eich data?

Bydd data personol yn ymwneud â'r gystadleuaeth yn cael ei gadw am hyd at chwe mis ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben, ac yna'n cael ei ddileu mewn ffordd ddiogel.

Dim ond cyhyd y bydd angen dangos ein bod wedi cael caniatâd y caniateir cadw cofnodion o ganiatâd cyhoeddusrwydd.

Eich hawliau diogelu data

Mae gennych chi hawl i'r canlynol:

  • Cael gafael ar eich data personol
  • Gofyn i ddata anghywir gael ei gywiro
  • Gofyn i ni ddileu eich data personol
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • Tynnu caniatâd yn ôl (lle defnyddir caniatâd)
  • Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gallwch wneud cais drwy'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os byddai dileu eich data'n effeithio ar degwch neu uniondeb y gystadleuaeth, bydd hyn yn cael ei egluro'n glir.

Cwynion

Os ydych chi'n poeni am sut mae eich data wedi cael ei drin, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data GBE-N.

Os ydych chi'n dal yn anfodlon, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Trosglwyddiadau Rhyngwladol

Mae data personol a gesglir ar gyfer y gystadleuaeth hon yn cael ei brosesu a'i storio yn y Deyrnas Unedig. Ni wneir unrhyw drosglwyddiadau rhyngwladol.

Rhagor o wybodaeth

Dim ond i Gystadleuaeth Enwi Gorsaf Bŵer Wylfa y mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol.

I gael gwybodaeth ynghylch sut mae Great British Energy – Nuclear yn prosesu data personol yn fwy cyffredinol, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd GBE-N.