Yr wythnos hon, cyfarfu cynrychiolwyr o Great British Energy – Nuclear (GBE-N) ag aelodau etholedig Cyngor Sir Ynys Môn i roi diweddariad ar gynnydd prosiect Gwyndod ac i amlinellu’r gweithgareddau allweddol cyn cam cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni.
Yn y sesiwn friffio, cafwyd cyfle i rannu’r datblygiadau diweddaraf, trafod y rôl y gallai’r datblygiad arfaethedig ei chwarae o ran cefnogi swyddi hirdymor, sgiliau a thwf economaidd, ac ateb cwestiynau gan gynghorwyr.
Roedd y cyfarfod hwn yn rhan o raglen ymgysylltu barhaus GBE-N, gan helpu i sicrhau bod cymunedau lleol a’u cynrychiolwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i gynlluniau ar gyfer Gwyndod barhau i ddatblygu cyn y cyfnod ymgynghori.
Dywedodd Anna Lewis, Rheolwr Cyfathrebu a Rhanddeiliaid Rhanbarthol yn GBE-N:
“Pleser oedd cwrdd â’r aelodau etholedig a chynnig diweddariad iddynt ar gynnydd prosiect Gwyndod. Wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynlluniau, mae’n bwysig ein bod ni’n ymwneud yn agored ac yn rheolaidd gyda rhanddeiliaid lleol, gwrando ar eu safbwyntiau a sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall y prosiect.”
“Rydym yn cydnabod arwyddocâd y prosiect hwn ar gyfer cymunedau lleol ac rydym wedi ymrwymo i gynnal deialog ystyrlon wrth i ni droi ein golygon at ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni.”
Mae’r sesiwn friffio hon yn adlewyrchu ymrwymiad GBE-N i weithio’n agos â chymunedau a rhanddeiliaid lleol, a sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i ddysgu mwy am y prosiect a chymryd rhan yn y broses ymgynghori wrth iddi fynd rhagddi.