Neidio i'r prif gynnwys

Y Sbarc

Rydym wedi cyhoeddi rhifyn mis Medi o Y Sbarc, ein cylchlythyr chwarterol sy’n cynnwys y newyddion a’r diweddaraf o bob agwedd ar ein sefydliad.

Mae rhifyn mis Medi o Y Sbarc yn tynnu sylw at y cynnydd parhaus ar brosiect Gwyndod, gan gynnwys cyhoeddi enw newydd y safle, a ddewiswyd gan bobl ifanc lleol drwy fenter a arweiniwyd gan y gymuned.

Mae’n cynnwys cerrig milltir allweddol megis dechrau’r broses gaffael ar gyfer y Partner Cyflawni, GBE-N yn ymuno â Chymdeithas Fyd eang Gweithredwyr Niwclear (WANO), a’r ymgysylltu parhaus â Llywodraeth Cymru a chymunedau lleol.

Mae’r cylchlythyr hefyd yn tynnu sylw at fwyfwy o gyfleoedd gwaith lleol, prentisiaethau newydd, penodiadau i swyddi arwain uwch, datblygiadau yn y gadwyn gyflenwi a digwyddiadau sydd ar y gweill. Yn ogystal, mae’n amlygu ymrwymiad GBE-N i ddiogelwch, datblygu sgiliau, cynhwysiant ac ymgysylltu cymunedol ar draws Ynys Môn a thu hwnt.

PDF documentY Sbarc – Medi 2026