Wylfa yn Ynys Môn wedi’i ddewis fel safle Adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf y DU, gan symud cynllun Clean Energy Superpower yn ei flaen.
Mae Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yn falch o gyhoeddi bod Wylfa yn Ynys Môn wedi cael ei ddewis fel y safle ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach cyntaf y DU. Dyma garreg filltir bwysig yng nghynllun Clean Energy Superpower y llywodraeth.
Bydd y prosiect seilwaith strategol hwn yn darparu hyd at 1.5GW o ynni carbon isel i’r grid, gan gefnogi nodau sero net y DU a gwella diogelwch ynni. Bydd y datblygiad yn creu manteision economaidd sylweddol i Gymru hefyd, gan gynnwys creu hyd at 3,000 o swyddi yn ystod cyfnod prysuraf y gwaith adeiladu a chyfleoedd gyrfa hirdymor.
Ychwanegodd Simon Bowen, Cadeirydd GBE-N:
“Dyma foment hanesyddol i’r Deyrnas Unedig a cham pwysig arall at wireddu potensial Prydain i arwain y ffordd o ran ynni niwclear.
“Bydd yr Adweithyddion Modiwlaidd Bach cyntaf hyn yn Wylfa yn gosod y sylfeini ar gyfer dull seiliedig ar fflydoedd o ddatblygu niwclear, gan gryfhau annibyniaeth ynni’r DU a denu buddsoddiad hirdymor i’r economi leol.
“Mae gan Wylfa hanes balch o ragoriaeth niwclear ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfaen honno i ddarparu swyddi, hyfforddiant ac ynni carbon isel am genedlaethau.”
Heddiw, mae Simon Bowen wedi cael ei gadarnhau fel Cadeirydd parhaol GBE-N.
Mae’r rhaglen adweithyddion modiwlaidd bach wedi cael £2.5 biliwn o gyllid gan y llywodraeth ac mae wedi’i chynllunio i ddenu buddsoddiad preifat, cryfhau cadwyn gyflenwi’r DU, a lleihau’r ddibyniaeth ar ynni wedi’i fewnforio.
Bydd GBE-N yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau lleol i sicrhau bod y prosiect yn creu gwerth parhaol, ac yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cory Reynolds, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Llywodraeth
cory.reynolds@greatbritishnuclear.uk m: 07763 096952
Ieuan Williams, Pennaeth Cyfathrebu
ieuan.williams@greatbritishnuclear.uk m: 07763 096880