Gan Simon Roddy, Prif Weithredwr, Great British Energy – Nuclear
Bob blwyddyn, mae Map Swyddi’r Nuclear Industry Association yn rhoi mesur pwysig o rywbeth a all fel arall gael ei golli yn y ddadl ynghylch ynni. Sef mai wrth wraidd pob prosiect, pob technoleg a phob penderfyniad buddsoddi mae un peth. Pobl.
Mae map eleni yn dangos bod gweithlu niwclear sifil y DU wedi cyrraedd record o 102,606, cynnydd o 4,433 ers 2025. Mae hefyd yn dangos bod 86% o’r swyddi y tu allan i Lundain a’r De-Ddwyrain. Mae’n stori arwyddocaol ac ysbrydoledig am dwf. Y cwestiwn nawr, gyda momentwm yn cynyddu, ydy beth yw’r cam nesaf?
Mae’r DU wedi gwneud penderfyniad clir i fuddsoddi mewn niwclear newydd fel rhan o ddyfodol ynni mwy sicr, fforddiadwy a glân. Mae hynny’n hanfodol ar gyfer sicrwydd ynni. Mae hefyd yn creu cyfle i gefnogi twf economaidd, cryfhau ein sylfaen ddiwydiannol a chreu gyrfaoedd medrus, hirdymor mewn cymunedau ar draws y wlad.
Yn Great British Energy – Nuclear, ein tasg yw cyflawni’r uchelgais genedlaethol.
Gyda Gwyndod, sef prosiect adweithyddion modiwlar bach cyntaf Ewrop ar Ynys Môn, mae uchelgais yn troi’n realiti. Dyma brosiect nad oes mo’i debyg. Ar ei anterth, disgwyliwn oddeutu 3,000 o bobl yn gweithio ar y safle, gyda miloedd mwy o swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Ers 2023, mae GBE-N eisoes wedi dyfarnu bron i £900 miliwn mewn contractau, gyda thros 70% yn mynd i gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn y DU.
Mae’r niferoedd yn sylweddol, ond dim ond dechrau’r stori ydy hyn. Bydd prosiect ar y raddfa hon angen peiriannwyr ac arbenigwyr prosiect, arbenigedd diogelwch a rheoleiddio, gallu masnachol a digidol, crefftau medrus, graddedigion a phrentisiaid — yn ogystal â’r miloedd o bobl ar draws ein partneriaid a’n cadwyn gyflenwi a fydd yn trosi cynlluniau yn orsaf bŵer weithredol.
Rhaid i Gwyndod gyflawni budd parhaus i Ynys Môn a Gogledd Cymru, ac ar yr un pryd creu galw a chyfle drwy gadwyn gyflenwi niwclear ar draws y DU gyfan. Nid yw’r cyfleoedd hyn wedi’u cyfyngu i unrhyw god post penodol. Gallwn eisoes weld beth all buddsoddiad niwclear parhaus ei wneud ar gyfer economïau rhanbarthol. Yr her nawr yw sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o brosiectau yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.
Mae hynny’n golygu meddwl am bobl fel blaenoriaeth cyflawni. Mae angen i ni ddenu pobl sydd wedi treulio eu gyrfaoedd yn y diwydiant niwclear, ond rydym ni hefyd angen pobl nad ydynt erioed wedi ystyried y sector o’r blaen. Rydym angen creu llwybrau i mewn i’r diwydiant ar gyfer pobl ifanc a phrentisiaid, denu arbenigedd o ddiwydiannau seilwaith mawr a diwydiannau eraill wedi’u rheoleiddio, a rhoi rhesymau i aros, datblygu ac arwain i’r rheiny sydd eisoes yn rhan o’r sector.
Rydym hefyd angen dangos ehangder y cyfle. Nid oes angen i chi fod yn ffisegydd niwclear i ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae prosiectau arbennig yn dibynnu ar gannoedd o ddisgyblaethau yn cydweithio tuag at amcan cyffredin.
Dyna pam ein bod ni’n cyhoeddi Pweru gan Bobl.
Pweru gan Bobl yw ein hymrwymiad i ddatblygu’r gallu mae GBE-N ei angen i “gael Gwyndod yn iawn” — a chreu gyrfaoedd y gall pobl dyfu ynddynt a chyfrannu at rywbeth o bwysigrwydd cenedlaethol arwyddocoal.
I ni, mae hyn yn golygu tri pheth. Pweru eich dyfodol: rhoi cyfle i bobl i ddatblygu a dilyn gyrfaoedd ystyrlon. Adeiladu rhywbeth anhygoel: rhoi cyfle i bobl i gyfrannu at brosiect a fydd yn bwysig ar gyfer cenedlaethau. A chyflawni gyda’n gilydd: cydnabod y gall prosiect cyntaf o’i fath lwyddo pan mae pobl, sefydliadau, cymunedau a phartneriaid yn gweithio fel un tîm.
Mae cydnabod bod prosiectau niwclear wedi’u pweru gan bobl yn rhan o sut ydym yn adeiladu sefydliad sy’n gallu cyflawni.
Mae’r Map Swyddi yn dangos pa mor bell mae sector niwclear y DU wedi dod. Y cyfle sydd o’n blaenau yw trosi’r twf hwnnw yn allu cenedlaethol parhaus: gyrfaoedd da, cadwyni cyflenwi cryfach, cyfle rhanbarthol a’r bobl sydd eu hangen i gyflawni’r genhedlaeth nesaf o niwclear.
Bydd technoleg yn galluogi dyfodol niwclear Prydain. Bydd buddsoddi yn gwneud hynny’n bosibl. Pobl fydd yn ei gyflawni.
Dyna beth mae Pweru gan Bobl yn ei olygu i ni.