Neidio i'r prif gynnwys

Pobl leol i ddewis enw prosiect SMR Wylfa

Heddiw, mae Great British Energy – Nuclear (GBE-N) wedi lansio cystadleuaeth enwi ar gyfer ei adweithyddion modiwlaidd bach blaenllaw yn Wylfa ar Ynys Môn.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd bod Wylfa wedi cael ei dewis fel lleoliad ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach cyntaf y DU, ynghyd â GBE-N yn llofnodi contractau gyda Rolls-Royce SMR i fod yn ddarparwr technoleg ar gyfer y prosiect.

Dywedodd Simon Roddy, Prif Weithredwr GBE-N:

“Dyma ddechrau perthynas fydd yn para degawdau gyda phobl Ynys Môn, felly mae’n gwbl briodol ein bod ni’n gofyn iddyn nhw helpu i enwi’r orsaf bŵer a fydd yn rhan o stori’r gymuned hon am genedlaethau i ddod.

“Wylfa ydy’r prosiect cyntaf o’i fath yn y DU, gyda manteision tymor hir yn lleol ac yn genedlaethol. Yn GBE-N, rydyn ni o ddifrif ynghylch darparu’r prosiect yn ddiogel, yn gyfrifol a gyda’r gymuned yn ganolog iddo. 

“Dyma ein cyfle ni i gyflawni cenhadaeth sy’n hanfodol yn genedlaethol ac rydyn ni’n gyffrous ac wedi ymrwymo i wneud hynny gyda’n gilydd.”

Dywedodd y Gweinidog dros Ynni Niwclear, yr Arglwydd Vallance:

“Mae hwn yn foment hanesyddol i Ogledd Cymru – bydd prosiect adweithydd modiwlaidd bach cyntaf y DU yn creu swyddi a chyfleoedd da i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol – felly rydym eisiau i’r gymuned leol helpu i’w enwi.

“Rydym yn rhoi Ynys Môn wrth galon oes aur newydd niwclear Prydain, a fydd yn helpu i bweru’r wlad gydag ynni glân a gynhyrchir yn y DU, yr ydym ni’n ei reoli.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

“Mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ar ei haddewid i ddod â niwclear newydd i Ynys Môn. Bydd y prosiect hwn, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad hanesyddol o £2.6 gan Lywodraeth y DU, yn cefnogi miloedd o swyddi ar yr ynys, hybu twf economaidd, a helpu i sicrhau annibyniaeth ynni’r DU.

“Rwy’n gyffrous am y rôl y bydd pobl Ynys Môn yn ei chwarae wrth ddewis enw ar gyfer y safle. Mae pobl leol yn ganolog i’r prosiect hwn ac fe fyddant felly am genedlaethau i ddod.”

Mae gan drigolion Ynys Môn tan 5pm, ddydd Llun 8 Mehefin, i gyflwyno eu hawgrymiadau, a bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi’n fuan wedyn.

www.greatbritishenergynuclear.uk/nameyourpowerstation

________________________________________

Gwybodaeth am GBE-N

Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yw corff cyflawni’r llywodraeth sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a defnyddio technolegau niwclear newydd yn y DU. Fel un o gyrff hyd braich yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net, mae GBE-N yn helpu i sicrhau diogeledd ynni yn y tymor hir, yn cefnogi targedau sero net, ac yn hyrwyddo buddsoddiad ac arloesedd ar draws y sector niwclear.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ieuan Williams, Pennaeth Cyfathrebu, GBE-N: ieuan.williams@greatbritishnuclear.uk