Cytundeb Cydweithio
Mae Great British Energy – Nuclear (GBE-N) a Chyngor Sir Ynys Môn wedi llofnodi Cytundeb Cydweithio heddiw sy’n nodi sut y bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyflawni Adweithyddion Modiwlaidd Bach cyntaf y DU yn Wylfa.
Bydd y cytundeb yn sicrhau partneriaeth dryloyw, effeithlon, barchus a chadarnhaol, gyda’r nod o sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymunedau’r Ynys, gan gefnogi llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Yr Egwyddorion Cyffredinol ar gyfer Cydweithio
Ymrwymiad ac Atebolrwydd
Bydd y ddau sefydliad yn gweithredu’n dryloyw, yn cyflawni cyfrifoldebau a gytunwyd, ac yn cynnal trefniadau llywodraethu a llwybrau adrodd clir ar gyfer gweithgareddau cydweithredol.
Cyfathrebu
Bydd cyfathrebu’n agored, yn amserol ac yn rhagweithiol. Mae’r ddau bartner yn ymrwymo i negeseuon cydlynol, prosesau briffio ar y cyd, ac atgyfeirio’n gynnar unrhyw faterion posibl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Byddwn yn cynnal y safonau uchaf o ran cydraddoldeb, gan sicrhau ymgysylltu hygyrch, dileu gwahaniaethu, a chefnogi’r rheini sy’n wynebu anfantais.
Atal a Diogelu
Mae diogelu’n gyfrifoldeb a rennir. Bydd yr holl waith ar y cyd yn cael ei gynllunio a’i gyflawni mewn ffordd sy’n diogelu plant, oedolion ac unigolion bregus.
Datblygu Cynaliadwy
Bydd y ddau sefydliad yn ystyried llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor penderfyniadau.
Arloesi
Bydd y ddau sefydliad yn ceisio dulliau arloesol sy’n cael eu llywio gan ddata, ac yn cofleidio offer digidol lle bo’n briodol i wella canlyniadau ac ymgysylltu.
Dyfyniadau
Dywedodd Kenny Douglas, Cyfarwyddwr DevCo, GBE-N:
“Rydw i’n hynod o falch o allu arwyddo’r cytundeb hwn ar ran GBE-N heddiw. Yn y misoedd ers y cyhoeddwyd Wylfa fel ein prif safle datblygu rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yr angerdd sy’n bodoli ar gyfer sicrhau’r buddion gorau ar gyfer pobl Môn gan ein prosiect. Ein cyfrifoldeb ni yw cyflawni’r potensial hwnnw ac mae GBE-N yn edrych ymlaen at gydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn dros y blynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Môn:
“Fel awdurdod sydd â phrofiad helaeth o brosiectau ynni mawr, mae gennym arbenigedd technegol sylweddol, gwybodaeth leol a dealltwriaeth fanwl o gymunedau’r Ynys. Mae’r profiad hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa gryf i allu dylanwadu ar GBE-N a’i gontractwyr mewn ffordd fydd yn sicrhau’r buddion lleol a rhanbarthol gorau, yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddarparu mewn modd cyfrifol gan amddiffyn nodweddion unigryw’r Ynys, ei diwylliant a’r iaith Gymraeg.
“Mae’r cyfleoedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen SMR arfaethedig yn sylweddol. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod Ynys Môn yn y sefyllfa orau posibl i allu manteisio ar y cyfleoedd hyn – boed hynny o ran swyddi newydd, llwybrau sgiliau, datblygiad y gadwyn gyflenwi leol, gwell isadeiledd neu fuddsoddiadau cymunedol hirdymor.”
Croesawodd Arweinydd y Cyngor a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard, y cytundeb gan ddweud:
“Mae cytundeb heddiw yn ffurfioli ein hymrwymiad i gydweithio’n agos â GBE-N wrth iddynt ymchwilio i’r ddarpariaeth o SMRs yn Wylfa. Mae ein blaenoriaeth yn glir – sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pobl Ynys Môn, tra’n sicrhau bod unrhyw risgiau’n cael eu rheoli’n iawn a bod llais yr Ynys yn cael ei chlywed drwy gydol y broses ddatblygu.”
“Edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth adeiladol hon ac at sicrhau bod y prosiect yn dod â buddion hirdymor, cadarnhaol i Ynys Môn a’i chymunedau.”
Ynglŷn â GBE-N
Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yw corff cyflawni’r llywodraeth sy’n ymroddedig i gefnogi datblygu a defnyddio technolegau niwclear newydd yn y DU. Fel corff hyd braich i’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, mae GBE-N yn helpu i sicrhau diogelwch ynni hirdymor, cefnogi targedau sero net, a hyrwyddo buddsoddi ac arloesi ar draws y sector niwclear.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ieuan Williams, Pennaeth Cyfathrebu, GBE-N: ieuan.williams@greatbritishnuclear.uk.