Daeth dros 400 o gyflenwyr ledled Gogledd Cymru, y DU a’r diwydiant niwclear byd-eang ynghyd ar Ynys Môn wrth i Rolls-Royce SMR a Great British Energy – Nuclear (GBE-N) symud ymlaen â chynlluniau i gyflawni adweithyddion modiwlar bach cyntaf y DU yn Gwyndod.
Daeth y gynhadledd ‘Cyflawni gyda’n Gilydd’, a gynhaliwyd ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, â busnesau wyneb yn wyneb â’r tîm sy’n cyflawni Gwyndod ar y cyd. Dyma gam pwysig o ran paratoi’r gadwyn gyflenwi a datblygu’r gallu diwydiannol sydd ei angen i gyflawni’r prosiect blaenllaw hwn.
Dros ddeuddydd, clywodd y rhai a fynychodd am y cyfleoedd sydd ynghlwm â’r rhaglen, y galluoedd a’r safonau sydd eu hangen a sut all busnesau baratoi i ddod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi. Yn ogystal, cafodd BBaChau arweiniad wedi’i deilwra ar sut i ymwneud â chadwyn gyflenwi ehangach prosiect Gwyndod.
Rhoddodd Rolls-Royce SMR a GBE-N gyflwyniadau a rhannwyd arweiniad ymarferol er mwyn helpu busnesau o bob maint i ymwneud â’r rhaglen. Clywodd gyflenwyr am y galluoedd sydd eu hangen a sut i weithio gyda phartneriaid cyflawni’r rhaglen, yn cynnwys drwy sesiynau cwrdd â’r prynwr pwrpasol.
Uchelgais Rolls-Royce SMR a GBE-N yw i raglen SMR y DU gynnwys 70% o gynnwys o’r DU, gan greu a chynnal miloedd o swyddi yn lleol ac ar draws y DU gyfan. Disgwylir y bydd dros 300 o brentisiaid yn cael eu cefnogi yn ystod y gwaith adeiladu, gydag ucheglais i bobl leol lenwi’r cyfleoedd hynny lle bynnag mae hynny’n bosibl.
Dywedodd y Gweinidog dros Ynni, Michael Shanks AS: “Bydd ein hoes euraidd o niwclear yn creu miloedd o swyddi medrus, yn denu biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, ac yn helpu i leihau biliau dros amser.
“Bydd adweithyddion modiwlar bach Gwyndod yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cenhedlaeth o bobl ifanc ledled Gogledd Cymru, gan gefnogi twf drwy gadwyn gyflenwi’r DU, a darparu pŵer niwclear glân wedi’i gynhyrchu yn y wlad hon ar gyfer Prydain i gyd.”
Meddai Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o fuddion economaidd, cyflogaeth a chadwyn gyflenwi Gwyndod i Gymru. Nid ein huchelgais yw lletya’r prosiect yn unig, ond hefyd i sicrhau gwerth parhaus drwy sgiliau medrus, cyfleoedd i fusnesau Cymru a chadwyni cyflenwi lleol cryfach.
“Mae Cymru yn cynnig gweithlu profiadol a medrus tu hwnt, gydag arbenigedd yn cwmpasu rolau proffesiynol, technegol a masnach. Mae hyn yn rhoi sylfaen gref i fusnesau a gweithwyr Cymru chwarae rôl sylweddol yn cyflawni’r hyn sy’n nodi pennod newydd i ddiwydiant niwclear Prydain drwy adeiladu’r SMR cyntaf.”
Dywedodd Simon Roddy, Prif Swyddog Gweithredol Great British Energy – Nuclear: “Wrth i ni barhau i gamu ymlaen â phrosiect Gwyndod, ysbrydoledig oedd gweld cymaint o ddiddordeb a chyffro gan y gadwyn gyflenwi i ddysgu mwy am sut allant gymryd rhan, a gwell byth oedd gallu cynnal digwyddiad o’r fath ar Ynys Môn ei hun, yng Ngholeg Menai.
“Roedd presenoldeb Gweinidogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar draws dau ddiwrnod ein digwyddiad yn pwysleisio’n berffaith ein bod o ddifrif ynglŷn â chyflawni’r prosiect gyda’n gilydd; rydym ni i gyd yn un “Tîm Gwyndod”!
Ychwanegodd Chris Cholerton, Prif Weithredwr Rolls-Royce SMR: “Prosiect Gwyndod yw ein cyfle i drawsnewid y ffordd y cyflawnir pŵer niwclear. Bydd ein dull ailadroddadwy o adeiladu mewn ffatri yn rhoi gwell sicrwydd ac yn lleihau’r risg sydd ynghlwm â chyflawni, gan greu gallu diwydiannol cenedlaethol a all gefnogi llu o SMRs Rolls-Royce yn y DU a’r cyfle enfawr i allforio, gan ddechrau gyda’r rheini sydd eisoes wedi’u sicrhau yn Tsiecia a Sweden.
“Daeth y digwyddiad hwn â’r sefydliadau a’r arbenigedd sydd wrth wraidd yr uchelgais honno ynghyd, gyda ffocws ar Gyflawni gyda’n Gilydd. Rydym nawr yn grymuso cadwyn gyflenwi Gwyndod ac yn magu’r partneriaethau cryf a fydd yn gwireddu ein cynlluniau.”
Gyda’i gilydd, mae gan Rolls-Royce SMR a GBE-N uchelgais gyffredin sef i Gwyndod ddarparu pŵer glân, fforddiadwy am genedlaethau i ddod, gan drawsnewid diwydiant y DU a chreu cyfleoedd a fydd yn para ar gyfer cymunedau yng Ngogledd Cymru ac ar draws y DU.