Neidio i'r prif gynnwys

Polisi Gwrthgaethwasiaeth a Masnachu Pobl

1. Pwrpas

Mae’r polisi hwn yn nodi ymrwymiad Great British Energy – Nuclear (GBE-N) i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ei weithrediadau a’i gadwyn gyflenwi. Bydd GBE-N yn cynnal ei fusnes mewn ffordd sy’n cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern (2015) a’r Hysbysiad Caffael Cyhoeddus (PPN) 02/23 a PPN009: ‘Mynd i’r Afael â Chaethwasiaeth Fodern yng Nghadwyni Cyflenwi’r Llywodraeth’.

2. Diffiniadau

Mae Caethwasiaeth Fodern yn derm cyffredinol sy’n cwmpasu gwahanol fathau o gam-fanteisio, gan gynnwys llafur gorfodol, masnachu pobl, caethwasanaeth oherwydd dyledion, llafur plant ac arferion tebyg i gaethwasanaeth a chaethwasiaeth.

3. Manylion y polisi

3.1. Cyffredinol

Nid yw GBE-N yn goddef unrhyw fath o gaethwasiaeth fodern ac mae wedi ymrwymo i weithredu’n foesegol ac yn ddidwyll yn ein holl weithrediadau a pherthnasoedd.

Bydd GBE-N yn cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern (2015) y DU, Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Deddf Caffael 2023, Hysbysiadau Polisi Caffael perthnasol a Strategaeth Caethwasiaeth Fodern Llywodraeth y DU.

Bydd GBE-N yn gweithredu ac yn cynnal systemau a rheolaethau effeithiol ym maes recriwtio, dewis a rheoli cyflenwyr, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, er mwyn atal caethwasiaeth fodern yn ein gweithrediadau a’n cadwyni cyflenwi.

Rydym yn cyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern sydd yn nodi’r camau rydym ni’n eu cymryd i nodi, asesu a lliniaru risgiau caethwasiaeth fodern.

Rydym ni’n disgwyl i’n partneriaid busnes rannu ein hymrwymiadau i ddileu caethwasiaeth fodern. Mae’r disgwyliadau hyn wedi’u nodi yng Nghod Ymddygiad Cyflenwyr Gwasanaethau Masnachol y Goron sydd yn mynnu cydymffurfiad â’r holl ddeddfwriaethau hawliau dynol perthnasol, gan gynnwys cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a Hysbysiad Caffael Cyhoeddus 02/23: Mynd i’r Afael â Chaethwasiaeth Fodern yng Nghadwyni Cyflenwi’r Llywodraeth. Rhaid i gyflenwyr hefyd sicrhau bod eu hisgontractwyr yn bodloni’r safonau hyn.

3.2. Camau gweithredu pe bai Caethwasiaeth Fodern yn cael ei nodi

Pe bai GBE-N yn canfod dioddefwr caethwasiaeth fodern, byddwn yn rhoi gwybod i asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Pan fyddwn yn credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, a’u bod yn y DU, byddwn yn cysylltu â’r heddlu drwy’r gwasanaethau brys.

Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i fynd i’r afael ag achosion o gaethwasiaeth fodern pan fo hynny’n briodol, gan gytuno ar gynlluniau gweithredu a gweithgareddau rheoli.

Os yw’n briodol, efallai y byddwn yn terfynu’r contract ar ôl ystyried yr effaith bosibl ar ddioddefwyr agored i niwed a dioddefwyr sydd mewn perygl.

Gellir codi pryderon drwy ddefnyddio unrhyw un o’n sianeli adrodd. Mae ein Polisi Codi Llais a’n Polisi Chwythu’r Chwiban yn nodi sut mae rhoi gwybod am bryderon, gan gynnwys pryderon sy’n ymwneud â chyflenwyr. Byddwn yn cymryd camau gweithredu priodol pan fydd ein partneriaid yn methu â bodloni ein disgwyliadau neu eu rhwymedigaethau cytundebol.

Datganiad Caethwasiaeth Fodern

Mae ein Datganiad Caethwasiaeth Fodern ar gael yma:

Datganiad Caethwasiaeth Fodern GBE-N – GOV.UK